Wythnos Gyntaf
Nid oes angen nodyn gan y meddyg yn ystod eich wythnos gyntaf o absenoldeb o'ch gwaith. Cwblhewch ffurflen SC2 sydd ar gael gan eich cyflogwr neu drwy glicio yma.
Ar ol yr wythnos gyntaf
Bydd angen nodyn gan y meddyg. Trefnwch apwyntiad gyda'r dderbynfa neu drwy ddefnyddio'r wefan.
Nodyn Preifat
Yn anffodus bydd rhai cyflogwyr yn mynnu nodyn yn ystod eich wythnos gyntaf o absenoldeb. Yn y sefyllfa yma gallwn gyflenwi nodyn preifat i chi. Nid yw hyn yn ran o'n dyletswyddau NHS a bydd rhaid gofyn am daliad ar gyfer y math yma o nodyn.