Gofynnir i bob claf newydd fynychu’r feddygfa ar gyfer Archwiliad Iechyd cyffredinol gyda’r Fflebotomydd neu Nyrs y Feddygfa. Mae hyn yn cynnwys pwyso, mesur taldra a phrawf pwysau gwaed ac mae’n rhoi cyfle i ni grynhoi eich hanes meddygol tra’n aros i’ch nodiadau gyrraedd gan y meddyg blaenorol. |