Os ydych chi ar feddyginiaeth tymor hir, byddwch yn derbyn presgripsiwn cyfrifiadurol gyda ffurflen ail-archebu ynghlwm ar yr ochr dde. Cadwch y ffurflen ail-archebu pan fyddwch yn mynd i’r Fferyllfa. Bydd hyn yn caniatáu i chi ail-archebu meddyginiaeth heb weld y meddyg bob tro. Pan fyddwch angen presgripsiwn arall, rhowch ger yr eitemau perthnasol ar y ffurflen a naill ai ei roi yn y blwch ger y dderbynfa neu ei anfon yn y post. Byddwn angen 48 awr i brosesu a pharatoi eich presgripsiwn. Yn anffodus, nid yw’n ymarferol i ni dderbyn ceisiadau am ail bresgripsiynau dros y ffôn (rydym yn derbyn ceisiadau am bresgripsiwn gan y sawl sy’n gaeth i’r cartref). Ni ellir rhagnodi rhai meddyginiaethau heb weld y meddyg ar bob achlysur. Bydd y Croesawydd yn cynghori am hyn. Yn dilyn nifer o Ail Bresgripsiynau, mae’n bosibl y gwahoddir chi i weld y Meddyg i adolygu eich achos a sicrhau fod popeth yn iawn cyn cyhoeddi mwy o bresgripsiynau. Rydym angen o leiaf 48 awr o rybudd ond byddem yn gwerthfawrogi mwy o rybudd. Sylwer fod y llinell presgripsiwn yn agored rhwng 10.30am - 12.30pm a 2.30pm - 4.30pm. Hefyd, gallwch e-bostio’r cais am bresgripsiwn, i gael manylion pellach a’r cyfeiriad e-bost gallwch gysylltu â Sandra Watchman.