Mae’n bwysig i chi gymeryd digon o feddyginaeth presgripsiwn gyda chi i barhau am eich cyfnod o wyliau (ac ychydig yn ychwanegol). Bydd rhai gwledydd yn gwahardd cario meddyginiaethau arbennig felly os oes gennych unrhyw amheuaeth cysylltwch â’r llysgenhadaeth priodol. Fe all eich meddyg gadarnhau’r angen am eich meddyginiaeth os yw’n orfodol.
Cofiwch gludo eich tabledi yn y pacedi gwreiddiol a chario copi o’ch presgripsiwn gyda chi pan yn teithio.