Cefndir y Feddygfa a Datganiad Bwriad
Adeiladwyd yr adeilad modern, llawn offer ym mis Gorffennaf 1993 ac rydym yn cynnig amrywiaeth cynyddol o wasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion, gan gynnwys yr anabl.
Rydym yn feddygfa hyfforddi ac mae gennym feddygon sy’n hyfforddi i fod yn feddyg teulu yn ogystal â myfyrwyr meddygol sy’n gysylltiedig â’r feddygfa. Rydym yn anelu i gynnig y gofal gorau posibl yn ôl y safonau meddygol gorau.
Credwn fod cleifion yn gyfrifol am eu gofal iechyd eu hunain - byddwn yn helpu cleifion i wneud y penderfyniad iawn am y driniaeth iddyn nhw trwy rannu’r opsiynau mewn ffordd ddealladwy.
Rydym yn anelu i drin cleifion gyda pharch.
Byddwn yn cynnig gofal o’r un safon, heb ystyried oed, rhyw, anabledd na hil.
Rydym yn ystyried barn cleifion wrth ddatblygu gwasanaethau.
Byddwn yn disgwyl I chi drin ein staff gyda pharch gan osgoi unrhyw iaith neu ymddygiad treisgar neu anweddus.
Ceisiwch fynychu eich apwyntiad yn brydlon, a’u canslo mewn digon o bryd os na bydd eu hangen arnoch.
Meddyliwch yn ofalus cyn gofyn am apwyntiad brys neu ymweliad â’ch cartref, gan eu defnyddio pan fo gwir angen yn unig.