Croeso i Meddygfa Mostyn House

Hafan

Thrombosis Gwythienau Dwfn

Mae unrhyw daith hir ar awyren neu ar fws yn gallu cynyddueich risg o gael thrombosis y gwythienau dwfn. Bydd modd i leihau’r risg o thrombosis pan yn hedfan drwy gymeryd y camau canlynol:

  1. Prynau Sanau pwrpasol o’r Fferyllfa leol a’u gwisgo pan yn teithio
  2. Yfed digon o ddwr pan yn teithio.
  3. Ymarfer cyhyrau’r goes yn aml wrth deithio. Gallwch wneud yr ymarferion canlynol
    • tra’ eistedd gwthiwch sawdlau eich traed at y llawr a’u dal yno am ychydig eiliadau, cyn ymlacio. Gwnwech hyn am ychydig funudau yn rheolaidd pob rhyw hanner awr.
    • tra’n eistedd gwthiwch fodiau eich traed tua’r llawr (fel pan yn sefyll ar flaenau eich traed). Daliwch eich bodiau fel hyn am ychydig eiliadau cyn ymlacio. Ail adroddwch y broses am ychydig o funudau ar y tro bob rhyw hanner awr.
    • codwch i gerdded yn rheolaidd os oes modd.
Gwybodaeth am y feddygfa
Y Tim
Gwasanaethau
Presgripsiynau
Apwyntiadau
Cliniqau a gwasanaethau eraill
'n Ddefnyddiol Ddolennau
Cysylltwch a Ni
English