Mae’r feddygfa’n cydnabod y gall gofalu am ffrind neu berthynas, yn ffurfiol neu’n anffurfiol, yn achlysurol achosi ei broblemau ei hun. Hysbyswch y meddyg os ydych yn ofalwr, fel y gall ef/hi helpu i gael y cyngor perthnasol i’ch galluogi i ddelio gydag unrhyw broblemau sy’n codi. Dylech gofrestru gyda’r Gwasanaeth Estyn Allan i Ofalwyr ym Mae Colwyn, ffôn 533714.