Sut i drefnu apwyntiadApwyntiadau ArferolI drefnu apwyntiad arferol ar ddiwrnod neu amser arbennig, cysylltwch a'r dderbynfa, neu cliciwch y botwm apwyntiadau ar y menu. Apwyntiadau Brys Os oes angen apwyntiad brys neu argyfwng arnoch, cysylltwch a'r dderbynfa. Bydd y derbynydd yn debyg o ofyn am ychydig o fanylion er mwyn helpu'r meddyg neu'r nyrs. Nid yw'n orfodol i chi drafod y mater os mai dyna yw eich dewis. Apwyntiadau ffôn Os hoffech drafod mater ar y ffon gyda'r nyrs neu'r meddyg cysylltwch gyda'r dderbynfa. Ymweliad cartref Os bydd angen ymweliad gan y meddyg arnoch, ceisiwch gysylltu a ni mor fuan a phosib (cyn 11 am os yw'n bosib). Bydd meddyg neu nyrs yn cysylltu a chi cyn i unrhyw un alw i drafod y broblem. Byddwn yn annog plant i fynychu'r feddygfa. Eich meddyg fydd yn penderfynnu os yw galwad i'ch cartref yn angenrheidiol. |