Rydym yn argymell i bob claf dros 65 oed a’r cleifion hynny sy’n dioddef gan salwch cronig fel clefyd yr ysgyfaint (broncitis, asthma, emffysema ayyb) anhwylder y galon, clefyd yr arennau neu ddiabetes gael brechlyn i atal y ffliw bob hydref.
Cyn teithio dramor, rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor gan nyrs y feddygfa ynglŷn â brechlyn perthnasol. Trefnwch ymlaen llaw fel y gellir darparu’r driniaeth lawn cyn i chi adael. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â’r nyrs o leiaf 6 wythnos cyn gadael.